Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
14 Tachwedd 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(15 munud)
Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol
(5 munud)
NDM6869 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi David Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad.
NDM6868 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol David Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Michelle Brown (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).
(30 munud)
NDM6861 - Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20, fel y pennir yn Nhabl 1 o “Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2019-20”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2018 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
(60 munud)
NDM6864 - Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Paratoadau ar gyfer disodli ffrydiau cyllido’r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2018.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2018.
(60 munud)
NDM6863 - Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai Cymru fod yn arweinydd byd mewn lles anifeiliaid.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwneud gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng yn orfodol yn holl ladd-dai Cymru; a
b) gwahardd yr arfer o ladd anifeiliaid heb eu stynio yn holl ladd-dai Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wahardd allforio anifeiliaid byw at ddibenion eu magu a'u lladd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ar ôl pwynt 1, dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r gwaith cadarnhaol a wnaed gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod gan y DU rai o'r safonau lles anifeiliaid uchaf yn y byd.
Yn nodi'r ymgynghoriad diweddar a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU ar agweddau ar les anifeiliaid wrth eu cludo fel bod y drefn reoleiddio yn adlewyrchu gwybodaeth wyddonol a milfeddygol unwaith y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn croesawu'r penderfyniadau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i gynyddu’r dedfrydau uchaf am greulondeb anifeiliaid i bum mlynedd a chyflwyno teledu cylch cyfyng gorfodol mewn lladd-dai yn Lloegr.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwneud gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng yn orfodol mewn lladd-dai ledled Cymru;
b) archwilio’r posibilrwydd o gyflwyno cyfraith Lucy a gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a'r holl werthwyr trydydd parti masnachol yng Nghymru; ac
c) cynyddu cymorth ar gyfer lladd-dai bach a chanolig i sicrhau bod ffermwyr yn gallu prosesu stoc mor lleol â phosibl.
A call for evidence on controlling live exports for slaughter and to improve animal welfare during transport after the UK leaves the EU (Saesneg yn unig)
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 – Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd o ran:
a) cyflwyno grant busnesau bwyd ar gyfer lladd-dai bach a chanolig fel bod modd iddynt osod teledu cylch cyfyng a hefyd wneud gwelliannau busnes eraill;
b) cynnwys safonau cadarn o ran lles ac iechyd anifeiliaid mewn gwaith er mwyn diffinio’r Gwerthoedd Brand Cynaliadwy i’r diwydiant bwyd amaeth.
c) sicrhau bod unrhyw adolygiad o ddeddfwriaeth ym maes labelu bwyd sy’n gysylltiedig â lles anifeiliaid yn seiliedig ar dystiolaeth.
Yn nodi nad oes unrhyw ladd heb stynio yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd.
Yn nodi mai dymuniad Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu lladd mor agos ag y bo’n ymarferol at eu pwynt cynhyrchu.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 – Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ym mhwynt 2, ychwanegu is-bwynt newydd:
gwahardd gwerthu cŵn bach gan drydydd partïon i roi terfyn ar ffermio anfoesegol cŵn bach.
(0 munud)
Ni chyflwynwyd testun
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 20 Tachwedd 2018